Kristy Alexander
Ymunodd Kristy Alexander â Partneriaethau Lleol yn 2021 yn y tîm Gwastraff Sero, fe’i penodwyd yn Gyfarwyddwr Datblygu Cleientiaid ym mis Ionawr 2026.
Mae Kristy yn helpu Partneriaethau Lleol i ehangu’r gefnogaeth y mae’n ei ddarparu i’r sector cyhoeddus trwy lunio datblygiad gwasanaethau ac arwain meysydd lle gall gael yr effaith gadarnhaol fwyaf.
Cyn ymuno â Phartneriaethau Lleol, treuliodd Kristy 12 mlynedd mewn Llywodraeth Leol yn darparu gwasanaethau seiliedig ar leoedd gan gynnwys gwastraff a strydwedd, a gweithio ar y cyd i ddarparu partneriaethau rhyng-awdurdod a rhaglenni PFI cymhleth. Gyda phrofiad mewn caffael, ail-drafod newidiadau cymhleth a pharatoi ar gyfer dod a PFI i ben, mae Kristy hefyd wedi cyflawni newidiadau i wasanaethau ar raddfa fawr a thrawsnewid darpariaethau gwastraff ac ailgylchu. Gyda gyrfa wedi’i gwreiddio mewn trawsnewid a newid gan gynnwys yn y sector preifat a’r trydydd sector, mae Kristy yn angerddol am wasanaethau cyhoeddus effeithlon sy’n diwallu anghenion cymunedau. Ei maes diddordeb penodol yw’r economi gylchol a gwerth cymdeithasol.
Gyda chymwysterau academaidd mewn Rheoli Gwastraff a Rheoli Prosiectau, mae’n aelod o’r Sefydliad Siartredig Rheoli Gwastraff (CIWM) a’r Gymdeithas Rheoli Prosiectau ac yn Hyfforddwr a Mentor cymwysedig ILM Lefel 7.
Kristy Alexander yng Ngwobrau TheMJ 2026
Bwrdd Partneriaethau Lleol a’r ELT Mehefin 2026
Kristy yng Nghynhadledd LARAC Cymru 2023
Kristy yn cyflwyno yng Nghynhadledd LARAC Cymru 2023
ELT 2026
Partneriaid a sefydliadau cyswllt
Cysylltu â Local Partnerships
"(Gofynnol)" indicates required fields
Siaradwch â ni
