Llywodraeth Leol
Helpu cynghorau i wneud penderfyniadau gwell, cryfhau gwasanaethau a darparu gwerth parhaol i drigolion a chymunedau.
Mae cynghorau’n gweithredu mewn cyfnod o bwysau sylweddol ariannol, strwythurol ac o ran gwasanaethau. Maent yn cydbwyso galw cynyddol, adnoddau cyfyngedig a diwygiadau mawr megis ad-drefnu llywodraeth leol a datganoli, tra’n parhau i ddarparu gwasanaethau hanfodol i drigolion.
Ar yr un pryd, disgwylir i gynghorau gynyddu’r cyflenwad tai, cefnogi tŵf economaidd, cryfhau seilwaith, gwella gwydnwch amgylcheddol a gwneud defnydd gwell o adnoddau cyhoeddus. Mae’r heriau hyn yn gymhleth, yn gyd-gysylltiedig ac yn aml yn gofyn am gapasiti ac arbenigedd penodol er mwyn symud o gynlluniau i gyflawni.
Ein Heffaith
Mae Partneriaethau Lleol yn gweithio ochr yn ochr â chynghorau i droi uchelgais yn weithredu ymarferol. Rydym yn darparu cyngor dibynadwy, sicrwydd a chymorth ymarferol i helpu cynghorau wneud penderfyniadau gwybodus, lleihau risg, adeiladu gallu a sicrhau canlyniadau gwell.
Mae ein gwaith yn cefnogi cynghorau ym meysydd darparu tai, adfywio, seilwaith, ynni, gwastraff ac ailgylchu, stiwardiaeth fasnachol, ad-drefnu llywodraeth leol a thrawsnewid.
Mae llywodraeth leol gref yn hanfodol ar gyfer cymunedau cryf. Pan fydd gan gynghorau’r cyngor, y dystiolaeth a’r cymorth cyflawni cywir, gallant wneud gwell defnydd o arian cyhoeddus, gwella gwasanaethau, datgloi buddsoddiad a chreu sylfeini cryfach ar gyfer y dyfodol.
Mae Partneriaethau Lleol yn helpu cynghorau i lywio ac ymateb i gymhlethdod a chyflawni lle mae’n bwysicaf: i drigolion, cymunedau a lleoedd.
Gweithio ym maes llywodraeth leol?
P’un a’i ydych yn paratoi ar gyfer ad-drefnu llywodraeth leol, yn darparu tai, yn cynllunio seilwaith, yn gwella gwasanaethau gwastraff, yn lleihau allyriadau, yn trawsnewid gwasanaethau neu’n cryfhau gallu masnachol, gall Partneriaethau Lleol helpu. Defnyddiwch y ffurflen ar waelod y dudalen hon i nodi pa gymorth sydd ei angen arnoch, a bydd aelod o’n tîm yn cysylltu â chi.
Contact Local Partnerships
"(Gofynnol)" indicates required fields
Talk to Us
