Tai, Adfywio a Seilwaith – Local Partnerships Tai, Adfywio a Seilwaith – Local Partnerships

Tai, Adfywio a Seilwaith

Cymorth i helpu sefydliadau’r sector cyhoeddus i ddatgloi datblygiad, darparu cartrefi, cryfhau lleoedd ac adeiladu’r seilwaith sydd ei angen ar gymunedau.

Yr Her

Mae cynghorau, awdurdodau cyfun a chyrff y sector cyhoeddus o dan bwysau cynyddol i ddarparu mwy o gartrefi, adfywio lleoedd a symud ymlaen â seilwaith sy’n cefnogi tŵf economaidd a chanlyniadau gwell i gymunedau. Fodd bynnag, mae llawer yn wynebu rhwystrau sylweddol i gyflawni, gyda chynlluniau’n cael eu hatal oherwydd cyfyngiadau hyfywedd, gofynion cymhleth ynghylch cydosod tir a seilwaith, pwysau ariannol, a diffyg capasiti mewnol neu arbenigedd arbenigol.

Sut mae Partneriaethau Lleol yn helpu gyda’r her hon

Mae Partneriaethau Lleol yn cefnogi sefydliadau’r sector cyhoeddus i symud o uchelgais i gyflawni. Rydym yn darparu cymorth ymarferol sydd wedi’i lywio gan ddealltwriaeth fasnachol ar draws darparu tai, adfywio, cynllunio, datblygu a seilwaith.

Mae ein cymorth yn cwmpasu cylch bywyd llawn prosiect, o archwilio opsiynau ac asesu hyfywedd, i ddatblygu achosion busnes, sicrhau cyllid, creu cynigion deniadol ar gyfer buddsoddi, a chryfhau llywodraethiant a sefydlu trefniadau cyflawni a phartneriaethau effeithiol.

Pam fod hyn yn bwysig?

Mae penderfyniadau ynghylch tai, adfywio a seilwaith yn siapio lleoedd am genedlaethau. Mae gwneud y penderfyniadau cywir yn helpu i ddatgloi datblygiadau, darparu cartrefi newydd, adfywio canol trefi, cryfhau economïau lleol a chreu cymunedau gwydn sydd wedi’u cysylltu’n well.

Oes angen cymorth gyda thai, adfywio neu seilwaith?

P’un a’i ydych yn ceisio datgloi safle sydd wedi’i atal, cyflymu’r broses o ddarparu tai, cryfhau achos busnes, cynllunio buddsoddiad mewn seilwaith, adfywio canol tref neu ddewis y model cyflawni mwyaf addas, gall Partneriaethau Lleol helpu.

Defnyddiwch y ffurflen ar waelod y dudalen hon i roi gwybod i ni pa gymorth sydd ei angen arnoch.

Sut mae Partneriaethau Lleol yn helpu

CHoSS

Gwasanaeth Cymorth Adeiladu Tai Cynghorau

Explore Support

PBH

Carcharorion yn Adeiladu Cartrefi

Explore Support

Darparu Tai a Thai Fforddiadwy

Rydym yn helpu sefydliadau’r sector cyhoeddus i ddatgloi’r broses o ddarparu tai, cynyddu’r cyflenwad o dai fforddiadwy a gwneud penderfyniadau hyderus ynghylch opsiynau cyflawni.

Strategaethau Adfywio ac Adnewyddu Canol Trefi

Rydym yn cefnogi adfywio sy’n seiliedig ar leoedd, gan helpu cleientiaid i lunio strategaethau realistig ar gyfer canol trefi, prif strydoedd a thwf lleol.

Safleoedd sydd wedi’u Hatal, Hyfywedd a Gwerthuso Opsiynau

Rydym yn helpu cleientiaid i ddeall beth sy’n atal safleoedd rhag symud ymlaen a nodi opsiynau ymarferol y gellir eu cyflawni.

Explore Support

Achosion Busnes a Strategaethau Cyllido

Rydym yn cefnogi datblygu achosion busnes cadarn a dulliau cyllido sy’n gallu gwrthsefyll craffu a denu buddsoddiad.

Explore Support

Cynllunio a Blaenoriaethu Seilwaith

Rydym yn helpu sefydliadau i gynllunio, blaenoriaethu ac alinio buddsoddiad mewn seilwaith â thai, tŵf ac amcanion ehangach sy’n ymwneud â lleoedd.

Modelau Cyflawni, Llywodraethiant a Phartneriaethau

Rydym yn darparu cyngor ar y strwythurau, partneriaethau a threfniadau llywodraethiant mwyaf addas i gefnogi cyflawni effeithiol.

Rheoli Prosiectau a Rhaglenni

Rydym yn darparu’r capasiti a’r gallu i helpu timau i symud prosiectau cymhleth ym maes tai, adfywio a seilwaith ymlaen.

Llety Dros Dro a Gwella Tai

Rydym yn cefnogi cynghorau a phartneriaid i ymateb i bwysau tai, gwella canlyniadau tai ac archwilio atebion cyflawni ymarferol.

Explore Support

Contact Local Partnerships

Do you have a project you would like help with, or could we answer a question about our services? Please message us here.

"(Gofynnol)" indicates required fields

Enw(Gofynnol)
Local Partnerships Logo Talk to Us
Hi there! Let us know if there’s anything we can help you with
Local Partnerships Logo

Yn barod i ddarganfod mwy?

Cadwch lygad ar y diweddariadau diweddaraf!

© Partneriaethau Lleol 2026 | Mae Partneriaethau Lleol LLP yn bartneriaeth atebolrwydd cyfyngedig sydd wedi’i chofrestru yng Nghymru a Lloegr dan y rhif OC346845. Y cyfeiriad cofrestredig yw 18 Smith Square, Llundain SW1P 3HZ.