Dim Gwastraff ac Economi Gylchol – Local Partnerships Dim Gwastraff ac Economi Gylchol – Local Partnerships

Dim Gwastraff ac Economi Gylchol

Rydym yn gweithio ochr yn ochr â thimau i ddarparu arbenigedd ychwanegol, offer ymarferol a chymorth uniongyrchol pan fo capasiti mewnol yn gyfyngedig.

Yr Her

Mae sefydliadau’r sector cyhoeddus o dan bwysau i leihau gwastraff, gwella effeithlonrwydd adnoddau ac ymateb i newidiadau mawr mewn polisi a chyllido, wrth gefnogi’r trawsnewid i economi fwy cylchol.

Mae Llywodraeth Ganolog y DU yn gosod y cyfeiriad polisi ar gyfer diwygiadau mawr megis Cyfrifoldeb Estynedig Cynhyrchwyr (Extended Producer Responsibility) ac Ailgylchu Symlach (Simpler Recycling). Yna mae angen i gynghorau a chyrff eraill yn y sector cyhoeddus ddeall beth mae’r newidiadau hyn yn ei olygu yn ymarferol, gwneud penderfyniadau gwybodus a darparu gwasanaethau dibynadwy sy’n cynnig gwerth am arian i drigolion.

Mae angen trosi polisi economi gylchol yn gamau gweithredu ymarferol sy’n cefnogi tŵf economaidd wrth leihau dibyniaeth ar adnoddau cyfyngedig.

Sut mae Partneriaethau Lleol yn helpu gyda’r her hon

Mae Partneriaethau Lleol yn helpu cynghorau a chyrff ehangach y sector cyhoeddus i ymateb i newidiadau polisi a throsi uchelgais economi gylchol yn gyflawniad ymarferol.

Rydym yn darparu cymorth ymarferol ac annibynnol i asesu opsiynau, gwella ailgylchu, rheoli costau, cryfhau llywodraethiant a nodi cyfleoedd economi gylchol sy’n gwneud defnydd gwell o adnoddau.

Pam fod hyn yn bwysig?

Mae penderfyniadau ynghylch gwastraff, ailgylchu a’r economi gylchol yn effeithio ar wasanaethau, costau, perfformiad amgylcheddol a gwydnwch economaidd hirdymor.

Mae gwneud y penderfyniadau cywir yn helpu sefydliadau’r sector cyhoeddus i gyflawni dyletswyddau statudol, lleihau effaith amgylcheddol, defnyddio adnoddau’n fwy effeithlon a darparu newid ymarferol ar gyfer cymunedau, busnesau a’r economi ehangach.

Oes angen cymorth gyda dim gwastraff ac economi gylchol?

P’un a’i ydych yn adolygu eich strategaeth wastraff, yn paratoi ar gyfer newidiadau polisi, yn gwella perfformiad ailgylchu neu’n rhoi egwyddorion economi gylchol ar waith, gall Partneriaethau Lleol helpu.

Defnyddiwch y ffurflen ar waelod y dudalen hon i roi gwybod i ni pa gymorth sydd ei angen arnoch, a bydd ein tîm Dim Gwastraff ac Economi Gylchol yn cysylltu â chi.

Sut mae Partneriaethau Lleol yn helpu

Polisi a Strategaeth Economi Gylchol

Rydym yn helpu llywodraethau, cynghorau a chyrff cyhoeddus i ddatblygu strategaethau economi gylchol sy’n seiliedig ar dystiolaeth ac sy’n lleihau gwastraff, yn gwella defnydd o adnoddau ac yn cefnogi gwydnwch amgylcheddol ac economaidd.

Newid Polisi a Gweithredu

Rydym yn helpu cyrff cyhoeddus i ymateb i ddiwygiadau mawr, gan gynnwys Cyfrifoldeb Estynedig Cynhyrchwyr, Cynllun Dychwelyd Ernes, Ailgylchu Symlach a gofynion sy’n newid ar gyfer seilwaith gwastraff.

Explore Support

Ailgynllunio Gwasanaethau Gwastraff ac Ailgylchu

Rydym yn cefnogi cynghorau i adolygu gwasanaethau gwastraff ac ailgylchu, deall gofynion y dyfodol a dylunio gwasanaethau sy’n effeithlon, yn wydn ac yn addas ar gyfer polisïau sy’n newid.

Cynllunio a Buddsoddi mewn Seilwaith

Rydym yn darparu cymorth masnachol, cyfreithiol a thechnegol i helpu cyrff cyhoeddus i gynllunio, caffael a darparu seilwaith gwastraff ac adnoddau sy’n diwallu anghenion y dyfodol.

Gwydnwch Gwasanaethau a Gwerth am Arian

Rydym yn helpu cynghorau i reoli pwysau costau, sicrhau bod gwasanaethau hanfodol yn addas ar gyfer y dyfodol a gwella gwydnwch hirdymor wrth reoli gwastraff ac adnoddau.

Achosion Busnes a Gwerthuso Opsiynau

Rydym yn helpu sefydliadau i asesu opsiynau, datblygu achosion busnes cadarn a gwneud penderfyniadau hyderus ynghylch gwasanaethau gwastraff, ailgylchu a rheoli adnoddau yn y dyfodol.

Cymorth Caffael a Chontractau

Rydym yn cefnogi prosesau caffael, datblygu contractau a darparu cyngor masnachol, gan gynnwys offer ymarferol megis contractau enghreifftiol ar gyfer trin gwastraff bwyd a threulio anaerobig.

Ail-ddefnyddio, Trwsio ac Effeithlonrwydd Adnoddau

Rydym yn helpu sefydliadau i nodi cyfleoedd i ymestyn oes cynhyrchion, lleihau gwastraff a gwneud defnydd gwell o ddeunyddiau ar draws systemau lleol.

Gyda phwy rydym yn gweithio
MHCLG logo

MHCLG

DEFRA logo

DEFRA

Welsh Local Government Association WLGA  logo

Welsh Local Government Association WLGA

Waste Resources Action Programme WRAP logo

Waste Resources Action Programme WRAP

Contact Local Partnerships

Do you have a project you would like help with, or could we answer a question about our services? Please message us here.

"(Gofynnol)" indicates required fields

Enw(Gofynnol)
Local Partnerships Logo Talk to Us
Hi there! Let us know if there’s anything we can help you with
Local Partnerships Logo

Yn barod i ddarganfod mwy?

Cadwch lygad ar y diweddariadau diweddaraf!

© Partneriaethau Lleol 2026 | Mae Partneriaethau Lleol LLP yn bartneriaeth atebolrwydd cyfyngedig sydd wedi’i chofrestru yng Nghymru a Lloegr dan y rhif OC346845. Y cyfeiriad cofrestredig yw 18 Smith Square, Llundain SW1P 3HZ.