Ynni Cymru – Cais am Gymorth
Prosiectau Systemau Ynni Lleol Clyfar sy’n dechrau yn 2026-27
Cyflwyniad

Yn dilyn lansiad llwyddiannus Ynni Cymru, rydym yn ymgysylltu â sefydliadau cymwys sydd â phrosiectau y mae angen cymorth i’w datblygu ac a fydd yn cael eu cyflawni yn 2026-27 ymlaen.
Efallai y bydd Ynni Cymru yn gallu darparu’r gefnogaeth ganlynol i’ch prosiect:
- Cymorth arbenigol SLES, gan gynnwys cyngor ar dechnolegau.
- Cymorth rheoli prosiectau, cwmpasu a dichonoldeb.
- Mynediad at becynnau cymorth, gan gynnwys offeryn dewis technoleg gwres ac Offeryn Storio Ynni Cymru (WEST) – ar gyfer dichonoldeb storio batris.
- Cyngor ar lwybrau i’r farchnad a Chytundebau Cynnyrch (PPAs).
- Cyfeirio at opsiynau ariannu.
- Asesiad cychwynnol o dichonoldeb y grid.
Trosolwg o Ynni Cymru
Cynllun gan Lywodraeth Cymru yw Ynni Cymru gyda’r amcanion canlynol:
- Cyflymu’r broses o drosglwyddo i systemau ynni lleol clyfar a’u defnyddio ledled Cymru.
- Ehangu’r ynni adnewyddadwy mewn perchnogaeth leol ac a ddefnyddir ac a gynhyrchir yng Nghymru.
- Optimeiddio effeithlonrwydd ac effeithiolrwydd prosiectau defnyddio a chynhyrchu ynni adnewyddadwy sydd mewn perchnogaeth leol.
- Hwyluso pontio teg i sero net, gan gadw’r buddion i gymunedau Cymru.
Egwyddorion System Ynni Lleol Glyfar (SLES)
Mae SLES yn cyfuno gwahanol asedau mewn ardal leol o ran cynhyrchu a storio ynni, ac o ran y seilwaith a’r galw amdano, ac yn peri iddynt weithredu mewn modd mwy deallus a darparu buddion lleol.
- Clyfar – mae’r prosiectau’n defnyddio data a rheolyddion i sicrhau bod ynni yn cael ei ddefnyddio mewn modd mwy effeithlon ac effeithiol, yn y man iawn ac ar yr adeg iawn (e.e. systemau rheoli a meddalwedd ar gyfer monitro, awtomatiaeth, deallusrwydd artiffisial, a/neu fasnachu ynni).
- Lleol – bydd y prosiectau mewn perchnogaeth leol,[1] byddant yn cydnabod bod gan wahanol leoedd a chymunedau yng Nghymru anghenion gwahanol, ac y bydd buddion yn deillio’n lleol (e.e. perchnogaeth leol, buddion o ran carbon, buddion ariannol, a buddion amgylcheddol a chymdeithasol ehangach).
- System Ynni – mae’r prosiectau’n defnyddio sawl math o dechnoleg (e.e. cyfuniad o gynhyrchu ynni adnewyddadwy lleol i hwyluso’r defnydd o ynni adnewyddadwy, gwresogi, oeri a dŵr poeth carbon isel, cludiant allyriadau isel iawn, lleihau’r galw, technolegau cynhyrchu ynni adnewyddadwy wedi’u cydleoli, y defnydd gorau posibl o gapasiti’r grid, a storio ynni).
[1] Canllawiau i ddatblygwyr, cymunedau lleol a’r sawl sy’n gwneud penderfyniadau (llyw.cymru)
Sefydliadau Cymwys
- Mentrau cymdeithasol gan gynnwys, ond heb fod o reidrwydd yn gyfyngedig i:
- Elusennau Cofrestredig
- Sefydliadau Corfforedig Elusennol
- Cwmnïau Buddiannau Cymunedol
- Cymdeithasau Budd Cymunedol
- Cymdeithasau Cydweithredol
- Busnesau bach a chanolig gan gynnwys busnesau amaethyddol
- Endidau llywodraeth leol gan gynnwys cynghorau tref a chymuned yng Nghymru
- Cyrff sector cyhoeddus Cymru
Cofrestru eich diddordeb
Llenwch y ffurflen isod i nodi eich diddordeb yng nghymorth Ynni Cymru. Nodwch fod gan dîm Ynni Cymru gapasiti cyfyngedig. Ar ôl cofrestru eich diddordeb, byddwn yn cysylltu â chi i roi gwybod pryd y gallwn gynnig cymorth, yn dibynnu ar faint o ddiddordeb a gawn.
