Llywodraeth Cymru
Cefnogi Llywodraeth Cymru i droi polisi, cyllid a diwygio yn gyflawniad ymarferol ledled Cymru.
Mae Llywodraeth Cymru’n cyflawni blaenoriaethau uchelgeisiol ar draws systemau cymhleth, o ynni glân ac addasu i’r hinsawdd i amaethyddiaeth gynaliadwy, polisi gwastraff a gwydnwch gwasanaethau cyhoeddus. Mae’r rhaglenni hyn yn aml yn cynnwys awdurdodau lleol, byrddau iechyd, cyrff cyhoeddus, cymunedau a phartneriaid cyflawni, pob un â chyfrifoldebau, pwysau a chapasiti gwahanol.
Mae troi polisi a chyllid yn weithredu ymarferol yn gofyn am lywodraethiant cadarn, rheolaeth glir ar raglenni, arbenigedd technegol a hyder y gall partneriaid cyflawni weithredu’n gyflym.
Ein Heffaith
Mae Partneriaethau Lleol yn helpu Llywodraeth Cymru i symud o uchelgais i weithredu. Rydym yn darparu cymorth rhaglenni, arbenigedd technegol, sicrwydd ansawdd a gallu cyflawni ar draws rhaglenni mawr gan gynnwys Gwasanaeth Ynni Llywodraeth Cymru, Ynni Cymru, cynllunio addasu i’r hinsawdd a’r Cynllun Ffermio Cynaliadwy.
Mae ein gwaith wedi helpu i sicrhau dros £100 miliwn o fuddsoddiad mewn ynni, trafnidiaeth a seilwaith cyhoeddus, wedi cefnogi dros 190 o brosiectau ynni ledled Cymru, wedi cyflawni dros 9MW o gapasiti cynhyrchu ynni adnewyddadwy, ac wedi cefnogi dros £200 miliwn o fuddsoddiad drwy’r Cynllun Ffermio Cynaliadwy ar gyfer mwy na 15,000 o ffermwyr.
Mae rhaglenni sydd wedi’u dylunio’n dda yn helpu cyrff cyhoeddus a chymunedau i ymateb i heriau mawr megis newid yn yr hinsawdd, y trawsnewid ynni, gwydnwch gwledig a phwysau ar wasanaethau. Trwy gryfhau llywodraethiant, cyflawni a gallu, mae Partneriaethau Lleol yn helpu Llywodraeth Cymru i droi blaenoriaethau cenedlaethol yn ganlyniadau ymarferol i bobl, lleoedd a chymunedau led led Cymru.
Ydych chi’n gweithio gyda Llywodraeth Cymru?
Os ydych yn datblygu polisi, rhaglen neu ddull cyllido sydd angen ei gyflawni gydag awdurdodau lleol, byrddau iechyd, cyrff cyhoeddus neu bartneriaid ehangach, gall Partneriaethau Lleol helpu. Defnyddiwch y ffurflen ar waelod y dudalen hon i ddweud wrthym pa gymorth sydd ei angen arnoch.
Contact Local Partnerships
"(Gofynnol)" indicates required fields
Talk to Us
