Llywodraeth Leol – Local Partnerships Llywodraeth Leol – Local Partnerships

Llywodraeth Leol

Helpu cynghorau i wneud penderfyniadau gwell, cryfhau gwasanaethau a darparu gwerth parhaol i drigolion a chymunedau.

Yr Her

Mae cynghorau’n gweithredu mewn cyfnod o bwysau sylweddol ariannol, strwythurol ac o ran gwasanaethau. Maent yn cydbwyso galw cynyddol, adnoddau cyfyngedig a diwygiadau mawr megis ad-drefnu llywodraeth leol a datganoli, tra’n parhau i ddarparu gwasanaethau hanfodol i drigolion.

Ar yr un pryd, disgwylir i gynghorau gynyddu’r cyflenwad tai, cefnogi tŵf economaidd, cryfhau seilwaith, gwella gwydnwch amgylcheddol a gwneud defnydd gwell o adnoddau cyhoeddus. Mae’r heriau hyn yn gymhleth, yn gyd-gysylltiedig ac yn aml yn gofyn am gapasiti ac arbenigedd penodol er mwyn symud o gynlluniau i gyflawni.

Ein Heffaith

Mae Partneriaethau Lleol yn gweithio ochr yn ochr â chynghorau i droi uchelgais yn weithredu ymarferol. Rydym yn darparu cyngor dibynadwy, sicrwydd a chymorth ymarferol i helpu cynghorau wneud penderfyniadau gwybodus, lleihau risg, adeiladu gallu a sicrhau canlyniadau gwell.

Mae ein gwaith yn cefnogi cynghorau ym meysydd darparu tai, adfywio, seilwaith, ynni, gwastraff ac ailgylchu, stiwardiaeth fasnachol, ad-drefnu llywodraeth leol a thrawsnewid.

Pam fod hyn yn bwysig?

Mae llywodraeth leol gref yn hanfodol ar gyfer cymunedau cryf. Pan fydd gan gynghorau’r cyngor, y dystiolaeth a’r cymorth cyflawni cywir, gallant wneud gwell defnydd o arian cyhoeddus, gwella gwasanaethau, datgloi buddsoddiad a chreu sylfeini cryfach ar gyfer y dyfodol.

Mae Partneriaethau Lleol yn helpu cynghorau i lywio ac ymateb i gymhlethdod a chyflawni lle mae’n bwysicaf: i drigolion, cymunedau a lleoedd.

Gweithio ym maes llywodraeth leol?

P’un a’i ydych yn paratoi ar gyfer ad-drefnu llywodraeth leol, yn darparu tai, yn cynllunio seilwaith, yn gwella gwasanaethau gwastraff, yn lleihau allyriadau, yn trawsnewid gwasanaethau neu’n cryfhau gallu masnachol, gall Partneriaethau Lleol helpu. Defnyddiwch y ffurflen ar waelod y dudalen hon i nodi pa gymorth sydd ei angen arnoch, a bydd aelod o’n tîm yn cysylltu â chi.

Sut mae Partneriaethau Lleol yn helpu

Gwydnwch ac addasu i’r hinsawdd

Cefnogi cynghorau i ddeall risgiau hinsawdd, datblygu cynlluniau addasu a meithrin gwydnwch ar draws gwasanaethau, asedau a lleoedd.

Effeithlonrwydd ynni a dadgarboneiddio

Explore Support

Gwastraff, ailgylchu a’r economi gylchol

Cefnogi cynghorau i ymateb i bolisïau gwastraff sy’n newid, gwella cyfraddau ailgylchu, rheoli costau a symud tuag at ddefnydd mwy cylchol o adnoddau.

Explore Support

Gallu masnachol a rheoli contractau

Helpu cynghorau i gryfhau trefniadau caffael, rheoli contractau, goruchwylio cyflenwyr, llywodraethu LATCO a gwneud penderfyniadau masnachol.

Rheoli rhaglenni a sicrwydd cyflawni

Cefnogi cynghorau gyda sefydlu swyddfeydd rheoli rhaglenni (PMO), trefniadau llywodraethiant, achosion busnes, adolygiadau sicrwydd a chapasiti cyflawni ar gyfer rhaglenni cymhleth.

Data, tystiolaeth a gwneud penderfyniadau

Helpu cynghorau i ddatblygu sail dystiolaeth gyffredin, sefydlu llinellau sylfaen ar gyfer gwasanaethau, deall opsiynau a gwneud penderfyniadau hyderus sy’n seiliedig ar dystiolaeth.

Cyllid, buddsoddi ac achosion busnes

Helpu cynghorau i ddatblygu strategaethau cyllido realistig, achosion buddsoddi a rhaglenni cyflawnadwy sy’n diogelu gwerth cyhoeddus.

Cysylltu â Local Partnerships

Oes gennych chi brosiect yr hoffech chi gael cymorth gydag ef, neu a allwn ni ateb cwestiwn am ein gwasanaethau? Anfonwch neges atom yma.

"(Gofynnol)" indicates required fields

Enw(Gofynnol)
Local Partnerships Logo Siaradwch â ni
Helo! Rhowch wybod i ni os oes unrhyw beth y gallwn eich helpu ag ef.

Yn barod i ddechrau sgwrs

Rydym yn gweithio orau pan rydym yn deall beth sydd bwysicaf i chi. Cysylltwch â ni a gadewch i ni archwilio sut y gallwn helpu.
Cysylltwch â ni
Local Partnerships Logo

Yn barod i ddarganfod mwy?

Cadwch lygad ar y diweddariadau diweddaraf!

Step 1 of 2

© Partneriaethau Lleol 2026 | Mae Partneriaethau Lleol LLP yn bartneriaeth atebolrwydd cyfyngedig sydd wedi’i chofrestru yng Nghymru a Lloegr dan y rhif OC346845. Y cyfeiriad cofrestredig yw 18 Smith Square, Llundain SW1P 3HZ.