Mae’r Canllawiau Cyflenwi Ynni Lleol gan Ynni Cymru ar gael yn Gymraeg a Saesneg ac yn darparu gwybodaeth ymarferol a hygyrch i helpu sefydliadau i archwilio cyfleoedd cyflenwi ynni lleol a gwneud gwell defnydd o ynni adnewyddadwy a gynhyrchir yn lleol. Mae’r canllawiau yn ymdrin â’r ystyriaethau rheoleiddio, masnachol a thechnegol allweddol sy’n gysylltiedig â datblygu prosiectau cyflenwi ynni lleol, gan helpu sefydliadau i ddeall yr opsiynau sydd ar gael ac asesu dulliau posibl.
Mae’r canllawiau yn cwmpasu Systemau Ynni y tu ôl i’r mesurydd, Systemau Ynni Gwifren Preifat a Chyflenwad Trydan Eithriedig o Drwydded. Maent yn esbonio sut mae pob model yn gweithio, y cyfleoedd y gall ei gynnig, a’r ffactorau y dylai sefydliadau eu hystyried cyn bwrw ymlaen â phrosiect. Mae’r canllawiau wedi’u cynllunio ar gyfer sefydliadau sydd â diddordeb mewn datblygu prosiectau ynni lleol neu wneud gwell defnydd o ynni adnewyddadwy a gynhyrchir yn lleol, gan gynnwys busnesau bach a chanolig, sefydliadau gwirfoddol ac elusennol, sefydliadau ynni cymunedol, datblygwyr ynni adnewyddadwy, awdurdodau lleol, cyrff sector cyhoeddus ac eraill sy’n archwilio cyfleoedd cyflenwi ynni lleol.