Howel Jones
Mae Howel Jones yn Uwch Gyfarwyddwr yn Uned Fusnes Cynaliadwyedd a Chadernid Partneriaethau Lleol.
Mae’n arwain ein gwaith gyda’r sector cyhoeddus i:
- gyflwyno dulliau strategol ac ymarferol i leihau allyriadau carbon a chyflawni net sero;
- cynllunio ar gyfer addasu i’r newid yn yr hinsawdd, gan helpu awdurdodau lleol i asesu’r effeithiau y bydd hinsawdd sy’n newid yn eu cael yn eu hardaloedd a deall pa waith fydd ei angen i ymateb i’r heriau hyn;
- datblygu, lleihau risgiau a chyflymu’r broses o gyflwyno seilwaith ynni adnewyddadwy a phrosiectau effeithlonrwydd ynni;
- datblygu a gweithredu strategaethau ar gyfer effeithlonrwydd adnoddau a datblygu systemau gwydn i leihau gwastraff a hwyluso economi gylchol.
Mae gan Howel dros 20 mlynedd o brofiad o gefnogi rhaglenni buddsoddi, gan gynnwys prosiectau Menter Cyllid Preifat (PFI) a Phartneriaethau Cyhoeddus-Preifat (PPP), ar draws cylch oes llawn prosiectau mewn amrywiaeth eang o sectorau. Arweiniodd ein gwaith ar ddatblygu a chyflwyno’r rhaglen trin gwastraff gweddilliol a gwastraff bwyd, gan weithio gyda Llywodraeth Cymru a phob un o’r 22 awdurdod lleol yng Nghymru.
Gweithio gyda Llywodraeth Cymru ac Ynni Morol
Mae ganddo brofiad helaeth o sefydlu fframweithiau cadarn ar gyfer rheoli rhaglenni a phrosiectau, ac mae ganddo arbenigedd sylweddol ym maes cynhyrchu ac adolygu achosion busnes, yn fwyaf diweddar ar gyfer Rhaglen Ynni Morol gymhleth a graddfa fawr Llywodraeth Cymru.
Mae wedi gweithio yn y sectorau cyhoeddus a phreifat, gydag awdurdodau lleol ac adrannau’r llywodraeth. Mae’n gyfrifydd sector cyhoeddus cymwysedig (CIPFA) ac mae ganddo sgiliau masnachol eang y mae wedi’u defnyddio mewn trafodaethau fel rhan o’r broses deialog gystadleuol.
Mae Howel yn siarad Cymraeg yn rhugl.
Cynhadledd CLlLC 2023
Howel yng Ngwobrau LGC 2023
Lansiad Adroddiad Effaith Blynyddol Cymru
Howel a Richard yn y cyfarfod staff
Lansiad Adroddiad Effaith Blynyddol Cymru
Howel yng Ngwobrau LGC 2023
Howel yng Ngwobrau LGC 2022
Howel yn #LGAConf23
Howel yn #LGAConf23
Partneriaid a sefydliadau cyswllt
Contact Local Partnerships
"(Gofynnol)" indicates required fields
Talk to Us
