Carwyn Davies – Local Partnerships Carwyn Davies – Local Partnerships

Ymunodd Carwyn Davies â Phartneriaethau Lleol ym mis Ionawr 2024 fel Arweinydd Strategol ar gyfer Gwasanaeth Ynni Llywodraeth Cymru, gan gefnogi’r sector cyhoeddus ledled Gogledd a Chanolbarth Cymru ar ystod eang o brosiectau seilwaith, effeithlonrwydd ynni ac ynni adnewyddadwy sy’n cwmpasu nifer o dechnolegau.

Fel siaradwr Cymraeg rhugl sydd wedi defnyddio’r Gymraeg fel iaith gyntaf erioed, mae Carwyn wedi gweithio mewn sawl awdurdod lleol yng Ngogledd a Chanolbarth Cymru mewn gyrfa sy’n ymestyn dros 20 mlynedd a mwy. Yn ystod y cyfnod hwn, mae wedi datblygu profiad sylweddol o lywodraeth leol ar lefel uwch ar draws nifer o sectorau, gan gynnwys cael ei benodi’n Bennaeth ar ysgol uwchradd Gymraeg fawr cyn ymuno â Chyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam fel Uwch Swyddog gyda’r cyfrifoldeb o arwain a gweithredu rhaglen statudol genedlaethol o fewn y fwrdeistref sirol.

Arweiniodd hyn at gyfleoedd i ddatblygu cydweithio rhwng y chwe awdurdod lleol yng Ngogledd Cymru, a chwaraeodd Carwyn ran strategol a gweithredol bwysig yn natblygiadau a gweithrediad rhanbarthol.

Ar hyn o bryd, mae Carwyn yn cefnogi Gwasanaeth Ynni Llywodraeth Cymru, gan weithio ar draws y sector cyhoeddus cyfan yng Nghymru i gefnogi cleientiaid wrth gyflawni eu huchelgeisiau Net Sero.

Mae gan Carwyn gefndir academaidd mewn daearyddiaeth, a hwn oedd ffocws ei radd BSc (Anrh) a’i radd MSc. Mae hefyd yn meddu ar gymhwyster proffesiynol NPQH.

Allwn ni helpu?
Oes gennych chi brosiect yr hoffech chi gael help ag ef, neu a allem ni ateb cwestiwn am ein gwasanaethau? Anfonwch neges atom yma.

First Minister of Wales Photo Aug 2025

Carwyn gyda Phrif Weinidog Cymru, Eluned Morgan AS, yn Eisteddfod Genedlaethol 2025 yn rhannu gwaith rhagorol Partneriaethau Lleol yng Nghymru

Leader of Plaid Cymru Photo Aug 2025

Carwyn Davies gydag Arweinydd Plaid Cymru, Rhun ap Iorwerth AS, yn Eisteddfod Genedlaethol Wrecsam 2025 yn rhannu gwaith rhagorol Partneriaethau Lleol yng Nghymru

Carwyn with Wales First Minister

Carwyn Davies yn ymuno â Dirprwy Brif Weinidog Cymru, Huw Irranca-Davies AS, yn Ysgol Brynhyfryd yn Sir Ddinbych, Gogledd Cymru, i weld sut mae cymorth Llywodraeth Cymru drwy Wasanaeth Ynni Llywodraeth Cymru wedi helpu i osod pympiau gwres a phaneli solar yn yr ysgol. Mae Partneriaethau Lleol yn bartner cyflawni i Wasanaeth Ynni Llywodraeth Cymru ac yn gweithredu fel arweinydd strategol.

WG-WGES & Salix event 2025

Carwyn Davies yn cyflwyno yn nigwyddiad Taith tuag at Gymru Net Sero 2025 a gynhaliwyd gan Lywodraeth Cymru, Gwasanaeth Ynni Llywodraeth Cymru a Salix yn Venue Cymru, Llandudno

Howel, Adele, Simon and Carwyn at the #WLGA2025

Carwyn Davies a chydweithwyr Partneriaethau Lleol yng Nghynhadledd Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru 2025 yn Venue Cymru, Llandudno

Carwyn Davies at the 2024 Welsh Government

Carwyn Davies yn nigwyddiad Taith tuag at Gymru Net Sero 2024 a gynhaliwyd gan Lywodraeth Cymru, Gwasanaeth Ynni Llywodraeth Cymru a Salix yn Venue Cymru, Llandudno

Carwyn with Wales First Minister

Carwyn yn cefnogi lansiad Adroddiad Effaith diweddaraf Gwasanaeth Ynni Llywodraeth Cymru

Partneriaid a sefydliadau cyswllt

Contact Local Partnerships

Do you have a project you would like help with, or could we answer a question about our services? Please message us here.

"(Gofynnol)" indicates required fields

Enw(Gofynnol)
Local Partnerships Logo Talk to Us
Hi there! Let us know if there’s anything we can help you with
Local Partnerships Logo

Yn barod i ddarganfod mwy?

Cadwch lygad ar y diweddariadau diweddaraf!

© Partneriaethau Lleol 2026 | Mae Partneriaethau Lleol LLP yn bartneriaeth atebolrwydd cyfyngedig sydd wedi’i chofrestru yng Nghymru a Lloegr dan y rhif OC346845. Y cyfeiriad cofrestredig yw 18 Smith Square, Llundain SW1P 3HZ.