Jane Cherrington
Ymunodd Jane Cherrington â thîm Partneriaethau Lleol ym mis Hydref 2022.
Mae Jane wedi mwynhau gyrfa lwyddiannus fel arbenigwr ym maes rheoli gwastraff a’r amgylchedd, gyda dros 25 mlynedd o brofiad yn y diwydiant a’r sector cyhoeddus. Mae’n dod â’i gwybodaeth helaeth am strategaeth gwastraff a newidiadau deddfwriaethol amgylcheddol i Bartneriaethau Lleol.
Mae ei harbenigedd wedi bod yn allweddol wrth gyflwyno partneriaethau strategol ar gyfer datrysiadau trin gwastraff ac wrth lunio nifer o achosion busnes ar gyfer buddsoddi, newid gwasanaethau a datblygu seilwaith. Mae Jane wedi gweithio ar draws pob agwedd ar wastraff ac ailgylchu, gan arwain trawsnewidiadau gwasanaeth, cynyddu cyfraddau ailgylchu a lleihau costau. Mae’n cydweithio â chynghorau i wella perfformiad gwasanaethau, proffidioldeb ac effeithlonrwydd.
Yn ogystal, mae gan Jane brofiad sylweddol o weithredu polisi. Yn arbennig, cefnogodd Llywodraeth Cymru wrth gyflwyno’r Rheoliadau Ailgylchu yn y Gweithle ledled Cymru. Mae hefyd wedi helpu nifer o gynghorau i baratoi ar gyfer cydymffurfio â rheoliadau tra’n cryfhau gallu masnachol eu timau cyflawni.
Cyn ymuno â Phartneriaethau Lleol, bu Jane yn Bennaeth Gwasanaethau Ailgylchu Cyngor Caerdydd, lle bu’n arwain amrywiaeth o brosiectau seilwaith a newid gwasanaethau. Mae ei chefndir yn cynnwys llywio cyfeiriad strategol a pholisi sefydliadau, yn ogystal â rheoli rhaglenni newid, caffael a chontractau.
Mae gan Jane gefndir academaidd mewn bioleg forol a dadansoddi amgylcheddol. Mae hi wedi ategu hyn drwy gyflawni mesurau rheoli llygredd yn ymarferol, monitro, dadansoddi data a dehongli gwybodaeth i ysgogi newid. Mae ganddi brofiad helaeth o gydymffurfiaeth reoleiddiol a datblygu polisi, gan weithio drwy ymgysylltu â rhanddeiliaid ac ymgynghori technegol. Mae gan Jane hefyd hanes cryf o reoli prosiectau i gefnogi cyflawni mentrau newid yn llwyddiannus.
Ar hyn o bryd mae’n cefnogi Llywodraeth Cymru yn ei hymdrechion i wella ansawdd dŵr ledled Cymru. Mae ei gwaith hefyd wedi cynnwys strategaethau lliniaru llifogydd, cynlluniau gweithredu ansawdd aer ac addasu i’r newid yn yr hinsawdd.
Mae Jane yn arbennig o falch o’i gwaith yn cefnogi Llywodraeth Cymru i lunio a gweithredu’r Rheoliadau Ailgylchu yn y Gweithle, yn ogystal ag arwain y gwaith o drawsnewid gwasanaethau masnachol Cyngor Torfaen i ysgogi tŵf masnachol a pherfformiad amgylcheddol. Gyda chyfuniad cryf o fewnwelediad gweithredol a strategaeth fasnachol, mae’n parhau i ehangu cynnig amgylcheddol Partneriaethau Lleol ar draws tir, dŵr ac aer, gan helpu cleientiaid i gyflawni gwelliannau diriaethol drwy newid ymarferol sy’n canolbwyntio ar ganlyniadau.
Mae gan Jane MSc mewn Dadansoddi Amgylcheddol ac Iechyd. Mae’n aelod llawn o Sefydliad Siartredig Rheoli Gwastraff (CIWM) ac yn aelod etholedig o gyngor CIWM Cymru.
Jane gyda thîm Cymru yng Nghaerdydd
Jane gyda thîm Cymru
Contact Local Partnerships
"(Gofynnol)" indicates required fields
Talk to Us
