Rhys Horan
Ymunodd Rhys Horan â Phartneriaethau Lleol yn 2016 ac ef yw Pennaeth Ynni Phartneriaethau Lleol.
Mae Rhys yn arwain tîm newydd Ynni Cymru i ddatblygu rhaglen a swyddogaethau Ynni Cymru, gan ganolbwyntio ar gynyddu faint o ynni adnewyddadwy sydd mewn perchnogaeth leol ledled Cymru, sefydlu trefniadau cyflenwi ynni lleol, a datblygu a chyflwyno Systemau Ynni Lleol Clyfar.
Cyn ymuno ag Ynni Cymru, roedd Rhys yn Arweinydd Strategol ar gyfer Gwasanaeth Ynni Llywodraeth Cymru, gan arwain ar ymgysylltu â sefydliadau’r sector cyhoeddus ledled Gogledd a Chanolbarth Cymru. Mae Rhys wedi treulio dros 15 mlynedd yn gweithio i amrywiol awdurdodau lleol ledled y DU.
Yn ystod ei yrfa, mae Rhys wedi bod yn gyfrifol am reoleiddio a gwella safonau iechyd a diogelwch mewn gweithleoedd, amodau tai yn y sector rhentu preifat, a chyflwyno prosiectau gwerth miliynau o bunnoedd i leihau carbon a gwella effeithlonrwydd ynni, gan gynnwys fferm solar gyntaf Cymru sy’n eiddo i awdurdod lleol. Mae wedi rheoli amrywiaeth o wasanaethau a swyddogaethau awdurdod lleol, gan ddarparu arweinyddiaeth strategol mewn meysydd polisi allweddol.
Mae ganddo Radd Meistr mewn Iechyd Cyhoeddus ac mae’n Ymarferydd Iechyd yr Amgylchedd Siartredig.
Mae Rhys yn weithgar yn ei gymuned leol, gan hyfforddi tîm pêl-droed dan 13 oed yn Rhuthun.
Rhys yn nigwyddiad Dathlu Partneriaethau yn Venue Cymru, Llandudno
Digwyddiad Dathlu Partneriaethau yn Venue Cymru, Llandudno
Rhys yn swyddfa Ynni Cymru yn M-SParc, gyda Rebecca Evans, Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio Llywodraeth Cymru
Rhys yn swyddfa Ynni Cymru yn M-SParc, gyda Rebecca Evans, Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio Llywodraeth Cymru
Partneriaid a sefydliadau cyswllt
Contact Local Partnerships
"(Gofynnol)" indicates required fields
Talk to Us
